Cwestiynau Cyffredin am GuideStar UK

Mae'r dudalen hon yn rhoi atebion i'ch cwestiynau am Guidestar UK a sut mae'n cael ei ariannu.


Beth yw GuideStar UK?

Elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2003 er mwyn hybu sector gwirfoddol a chymunedol y DU drwy greu gwefan i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am elusennau'r DU a'u gweithgareddau yw GuideStar UK.

Sefydlwyd yr elusen mewn ymateb i Adroddiad Uned Strategaeth Swyddfa'r Cabinet yn 2002. Canfu'r adroddiad nad oedd digon o wybodaeth am elusennau ar gael i'r cyhoedd.

Yn Nhachwedd 2005, lansiodd GuideStar UK y casgliad mwyaf cynhwysfawr yn y DU o wybodaeth ar y we am elusennau cofrestredig, gan ddod â gwybodaeth a oedd yn bodoli'n barod at ei gilydd mewn un lle am y tro cyntaf, a'i harddangos mewn ffordd sy'n hawdd i'w darllen a'i deall.

Y nod yw sefydluwww.guidestar.org.uk fel y lle cyntaf y bydd rhywun sydd eisiau gwybodaeth am elusen yn troi ato. Bydd y wefan yn hybu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector elusennol ac yn annog mwy o gefnogaeth gan gyfranwyr a gwirfoddolwyr.


Pwy sy'n elwa o wefan GuideStar UK?

  • Pobl mewn angen mae'n ffordd hawdd o ddod o hyd i ffynhonnell a all gynnig cymorth neu gefnogaeth.
  • Elusennau gallant ddangos sut maent yn helpu'r cyhoedd a gwella'u dealltwriaeth eu hunain o waith sefydliadau eraill yn eu maes. Mae'r wefan yn rhoi lle amlwg ar y we i elusennau bychain a gallai olygu bod llawer mwy o bobl yn dod i wybod am eu gwaith.
  • Cyfranwyr mae'n haws iddynt ddod o hyd i elusennau sy'n gweithio mewn meysydd sydd o ddiddordeb iddynt hwy.
  • Noddwyr gallant ddefnyddio cofnodion elusennau ar y wefan i'w helpu i werthuso ceisiadau am grantiau a chynllunio rhaglenni grantiau.
  • Ymchwilwyr gallant ddefnyddio data GuideStar UK fel sylfaen ar gyfer eu hymchwil, gan leihau'r angen am holiaduron costus sy'n cymryd llawer o amser.
  • Llunwyr Polisïau gallant fonitro tueddiadau mewn gweithgareddau elusennol fesul sector a lleoliad neu dynnu sylw at feysydd a allai elwa o ragor o gymorth elusennol.
  • Cymdeithas yn gyffredinol bydd mwy o gyfle i gael gwybodaeth am waith elusennau.

Sut mae gwefan GuideStar UK yn wahanol i Restr Gyhoeddus o Elusennau ar-lein y Comisiwn Elusennau a gwefannau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth am elusennau?

Mae gwefan GuideStar UK yn fwy cynhwysfawr nag unrhyw ffynhonnell arall sydd ar gael ar hyn o bryd sy'n cynnwys gwybodaeth am elusennau cofrestredig. Fe'i cynlluniwyd er mwyn cwrdd ag anghenion ystod eang o ddefnyddwyr. Mae peiriant chwilio pwerus GuideStar UK yn caniatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano yn gyflym ac yn gywir ymhlith miloedd ar filoedd o elusennau.

Yn y gorffennol mae wedi bod yn anodd dod o hyd i elusennau sy'n gwasanaethu anghenion penodol ac yn gweithio mewn lleoliadau penodol. Gyda GuideStar UK gall defnyddwyr chwilio am elusen drwy ddefnyddio geiriau allweddol ac amrywiaeth eang o feini prawf gan gynnwys achos, lleoliad a maint yr elusen. Mae peiriant chwilio arloesol GuideStar UK yn rhyngweithiol - mae'n dweud wrth y defnyddiwr lle i chwilio nesaf. Bydd yn ffordd hawdd i bobl mewn angen ddod o hyd i ffynhonnell a all gynnig cymorth neu gefnogaeth.

Mae GuideStar UK hefyd yn eich galluogi i ganfod pa elusennau sydd wedi eu lleoli a/neu sy'n gweithredu mewn lleoliad arbennig - cod post, ward, plwyf, ardal, etholaeth seneddol, ardal ymddiriedolaeth gofal sylfaenol, dosbarth, sir, rhanbarth neu wlad.

Gall elusennau olygu ac ychwanegu at eu cofnodion ar-lein. Mae'r wefan yn rhoi cyfle di-dâl i elusennau egluro'u gwaith, y budd a ddarperir i'r cyhoedd a'r hyn a gyflawnwyd ganddynt yn ddiweddar. Gall yr elusennau bychain niferus hynny nad oes ganddynt wefan ddefnyddio'u cofnod yn GuideStar UK fel eu gwefan eu hunain. Bydd elusennau'n gallu recriwtio cefnogwyr, gofyn am gyfraniadau, hysbysebu cyfleoedd i wirfoddoli a cheisio cael cefnogaeth i'w hymgyrchoedd. Bydd GuideStar UK yn annog pobl i gyfrannu a gwirfoddoli ar dudalennau gwe pob un o'r 168,000 o elusennau.

Mae GuideStar UK yn adnodd newydd pwysig i ymchwilwyr a dadansoddwyr polisïau. Gall llunwyr polisïau fonitro tueddiadau mewn gweithgareddau elusennol fesul sector a lleoliad neu dynnu sylw at feysydd a allai elwa o ragor o gymorth elusennol. Gellir defnyddio data GuideStar UK fel sylfaen ar gyfer astudiaethau ystadegol - gan leihau'r angen am holiaduron costus sy'n cymryd llawer o amser. Bydd GuideStar UK yn darparu gwybodaeth werthfawr i bob un sy'n cynghori cyfranwyr.

Yn y dyfodol bydd GuideStar UK yn ehangu i gynnwys elusennau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ogystal ag elusennau sydd wedi eu heithrio a'u hesemptio, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol anffurfiol. Nid yw'r rhain yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn Elusennau.


Beth yw'r berthynas rhwng GuideStar UK a'r Comisiwn Elusennau?

TMae'r Comisiwn yn darparu data cyhoeddus sydd ar gael am elusennau i GuideStar UK ynghyd â chopïau electronig o adroddiadau blynyddol a chyfrifon elusennau.

Roedd y Comisiwn Elusennau yn bartner yng nghais llwyddiannus GuideStar UK i gyllideb Buddsoddi i Arbed Trysorlys Ei Mawrhydi ac roedd yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd Prosiect GuideStar UK a oedd yn goruchwylio'r camau cynllunio cychwynnol. Mae cynrychiolydd o'r Comisiwn wedi bod yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd GuideStar UK fel sylwedydd.


A yw defnyddwyr yn gorfod talu am ddefnyddio gwefan GuideStar UK?

Nac ydynt. Mae'r wefan a mynediad i'r gronfa ddata drwy'r wefan yn rhad ac am ddim. Bydd GuideStar UK yn datblygu rhai gwasanaethau gwybodaeth sy'n ychwanegu gwerth yn y dyfodol. Bydd y rhain yn cael eu gwerthu drwy danysgrifiadau er mwyn sicrhau bod modd cadw'r wefan gyhoeddus yn ddi-dâl.


A yw elusennau'n gorfod talu am gael ymddangos ar wefan GuideStar UK?

Nac ydynt. Ni chodir tâl ar elusennau'n sy'n ymddangos ar y wefan. Cânt eu cynnwys yn y gronfa ddata am ddim, ac mae'r cyfleusterau diweddaru a newid cofnod am ddim hefyd.


Sut mae GuideStar UK yn cael ei ariannu?

Ariannwyd cyfnod fforio GuideStar UK gan nifer o ymddiriedolaethau yn y DU ac fe'i cefnogwyd gan y Sefydliad Dyngarwch.

Ym Mawrth 2003, dyfarnwyd grant cychwyn o £2.9 miliwn dros gyfnod o 3 blynedd i GuideStar UK o'r gyllideb Buddsoddi i Arbed, menter ar y cyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi a Swyddfa'r Cabinet sy'n ceisio annog arloesi a phartneriaeth yn y sector cyhoeddus. Roedd y Comisiwn Elusennau a Chyfarwyddiaeth Cymdeithasau Byw y Swyddfa Gartref yn bartneriaid yng nghais llwyddiannus GuideStar UK.

Mae GuideStar UK hefyd wedi cael arian gan ymddiriedolaethau sy'n cynnig grantiau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau yn ogystal â'r Loteri Genedlaethol. Further information on our supporters can be found here.


A fydd modd cadw'r wefan gyhoeddus yn ddi-dâl?

Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd tymor hir GuideStar UK bydd rhaid inni ddangos i'n defnyddwyr ein bod yn effeithiol a chanfod ystod o ffrydiau refeniw. Bydd cronfa ddata'r elusennau ar gael drwy wefan ddi-dâl o hyd, ond bydd rhai gwasanaethau gwybodaeth sy'n ychwanegu gwerth yn cael eu datblygu hefyd.


A fydd GuideStar UK yn gwerthu data am elusennau?

Bydd. Bydd GuideStar UK yn datblygu ystod o wasanaethau gwybodaeth ychwanegol ar gyfer elusennau, dyfarnwyr grantiau a chynghorwyr proffesiynol a fydd yn darparu mynediad teilwredig i'r gronfa ddata. Gellir trwyddedu data hefyd er mwyn darparu sylfaen i gynlluniau eraill. Bydd y datblygiadau hyn a fydd yn cynhyrchu refeniw yn helpu i sicrhau bod modd cadw'r wefan gyhoeddus yn ddi-dâl.

A Rhaid i unrhyw drwydded data fod yn gyson ag amcanion elusennol GuideStar UK, sef hybu a chefnogi sector gwirfoddol a chymunedol y DU.


Beth yw'r berthynas rhwng GuideStar UK a GuideStar yn yr Unol Daleithiau?

Cafodd GuideStar UK ei ysbrydoli gan y GuideStar, y system wybodaeth elusennol sefydledig a llwyddiannus sy'n bodoli yn yr Unol Daleithiau, www.guidestar.org - opens new browser window.

Mae GuideStar UK yn annibynnol ar y sefydliad tebyg sydd yn yr Unol Daleithiau. Roedd gwybodaeth am brofiad a dulliau GuideStar US a'r her a wynebwyd ganddynt yn ddefnyddiol iawn yn ystod camau gwerthuso'r prosiect.

Last updated: 1st January 2005 yn ôl i'r brig