Cwestiynau Cyffredin ar gyfer elusennau sy'n diweddaru eu cofnodion

Mae'r dudalen hon yn rhoi atebion i gwestiynau a allai fod gennych ynglŷn â diweddaru cofnod eich elusen.

Cyffredinol

O ble daeth y wybodaeth sydd ar y wefan am fy elusen?
A oes angen i elusennau dalu er mwyn cael eu cynnwys ar wefan GuideStar UK?
A all fy elusen i eithrio allan o wefan GuideStar UK?
Rydym yn elusen fechan sy'n rhoi grantiau - sut allwn ni leihau nifer y ceisiadau digymell?
A alla i ddefnyddio'r cofnod ar wefan GuideStar UK fel gwefan ar gyfer fy elusen?
A fydd GuideStar UK yn cymharu elusennau?
A oes eglurhad o'r termau a ddefnyddir ar wefan GuideStar UK?

Gwneud newidiadau

Alla i olygu neu ychwanegu at y wybodaeth sydd i'w gweld am fy elusen?
Oes rhaid imi ddiweddaru cofnod fy elusen?
Pwy ddylai ddiweddaru cofnod fy elusen?
A oes unrhyw arweiniad/cymorth i'w gael ynglŷn â sut i ddiweddaru cofnod fy elusen?
Alla i ychwanegu logo fy elusen at y wefan?
Alla i ychwanegu dolen gyswllt i wefan fy elusen?
Alla i ychwanegu Adolygiad Blynyddol fy elusen neu ddogfennau eraill at y wefan?
A all fy elusen i ofyn am gyfraniadau neu wirfoddolwyr drwy wefan GuideStar UK?

Problemau

Pam nad yw gwybodaeth ddiweddaraf fy elusen i'w gweld ar y wefan?
Rydym yn gymdeithas dai neu'n sefydliad addysg uwch - pam nad ydych wedi codi gwybodaeth o'r dogfennau a gyflwynwyd gennym i'r Comisiwn Elusennau?
Beth ddylwn i ei wneud os yw'r wybodaeth am fy elusen yn anghywir?
Pam nad yw'r ffigurau ariannol ar gyfer fy elusen yn gwneud synnwyr?
Pam bod y penawdau ar eich gwefan yn wahanol i'r rhai sydd yn Adroddiad Blynyddol ein Hymddiriedolwyr a'n Cyfrifon?
Pam bod gwallau teipio yng nghofnod fy elusen a sut alla i eu cywiro?
Pam bod problem gyda ffurf tablau ariannol a godwyd o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr?
Beth os yw fy elusen yn rhan o grŵp o elusennau?

Cyfrinair

Alla i newid cyfrinair fy elusen?
A yw'r cyfrinair yn adnabod prif lythrennau a llythrennau bach?
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli fy nghyfrinair?
Rydym yn elusen newydd - sut mae cael cyfrinair?

O ble daeth y wybodaeth sydd ar y wefan am fy elusen?

Rydym wedi codi'r wybodaeth o ddogfennau neu adroddiadau a gyflwynasoch i'r Comisiwn Elusennau, Nid ydym wedi ei newid nac wedi gwneud sylwadau arni. Rydym wedi defnyddio'r Datganiad o'r Arfer a Argymhellir (SORP) fel sylfaen ar gyfer y wybodaeth a godwyd ac rydym wedi ymgynghori'n eang ynglŷn â'r ffordd orau o arddangos y wybodaeth hon fel ei bod yn ddefnyddiol i bawb. Gallwch ychwanegu rhagor o wybodaeth - a bydd yn ymddangos yn union fel rydych yn ei darparu - drwy glicio ar

Update my charity ar yr ochr dde yn rhan uchaf cofnod eich elusen.


A oes angen i elusennau dalu er mwyn cael eu cynnwys ar wefan GuideStar UK?

Nac oes. Caiff elusennau eu cynnwys yn y gronfa ddata am ddim, ac mae'r cyfle i ddiweddaru a newid eich cofnod am ddim hefyd.


A all fy elusen i eithrio allan o wefan GuideStar UK?

Na. Mae cofnod ar wefan GuideStar UK ar gyfer pob un o'r prif elusennau cofrestredig sydd yng Nghymru a Lloegr - 167,000 ohonynt. Mae'n ffynhonnell gynhwysfawr ar gyfer gwybodaeth.

Rydym yn cynnwys pob elusen gofrestredig gan ein bod yn credu bod angen gwneud hyn er mwyn cyflwyno darlun cywir o'r sector elusennol i'r cyhoedd. Mae'r wybodaeth rydym yn ei chynnwys ar ein safle yn agored i'r cyhoedd ac, o ganlyniad, mae gennym hawl i'w chynnwys ar y wefan.


WRydym yn elusen fechan sy'n rhoi grantiau - sut allwn ni leihau nifer y ceisiadau digymell?

YGallwch ychwanegu neges at gofnod eich elusen yn nodi beth fydd yn cael ei ariannu a beth na fydd yn cael ei ariannu. Gallwch hefyd nodi'n glir nad ydych yn derbyn ceisiadau digymell. Cliciwch ar Update my charity ar yr ochr dde yn rhan uchaf tudalen eich elusen ac ewch i'r adran ACTIVITIES.

Rydym wedi ychwanegu'r neges isod at gofnodion pob elusen sy'n cynnig grantiau: "Sylwer nad yw llawer o elusennau sy'n cynnig grantiau'n derbyn ceisiadau digymell. Dylech geisio sicrhau nad ydych yn gwneud ceisiadau amhriodol am arian a fyddai'n gwastraffu amser ac yn creu mwy o waith i'r elusennau ac i chi. Darllenwch y disgrifiadau o weithgareddau a pholisi cynnig grantiau'r elusen yn ofalus cyn ystyried a ddylech gysylltu â hi ai peidio."


A alla i ddefnyddio'r cofnod ar wefan GuideStar UK fel gwefan ar gyfer fy elusen?

Gallwch. Mae'n hawdd iawn ichi ychwanegu gwybodaeth fel newyddion a llwyddiannau diweddaraf eich elusen at eich cofnod ar wefan GuideStar UK. Pan fyddwch yn pwyso'r botwm Update my charity fe welwch fod eich cofnod wedi ei rannu'n adrannau llai. Gallwch wneud newidiadau i'r adrannau hyn, un ar y tro, a phan fyddwch yn clicio'r botwm UPDATE bydd y newid yn cael ei wneud.

Gallwch hefyd ychwanegu dogfennau amrywiol at eich cofnod, gan gynnwys cylchlythyr a datganiad i'r wasg. Os ydych yn dewis ychwanegu eich logo, bydd yn ymddangos gydag enw'ch elusen yn adran gyntaf eich cofnod.


A fydd GuideStar UK yn cymharu elusennau?

Na fydd. Ni fyddwn yn gwerthuso elusennau, yn gwneud sylwadau ar eu perfformiad nac yn gwneud tablau cynghreiriau. Byddwn yn darparu mynediad di-dâl i'r cyhoedd i wybodaeth am elusennau yn union fel y mae'r wybodaeth wedi ei chyflwyno gan yr elusennau i'r Comisiwn Elusennau neu drwy ddiweddaru eu cofnod ar wefan GuideStar UK.


A oes eglurhad o'r termau a ddefnyddir ar wefan GuideStar UK?

Oes. Rydym wedi cynnwys rhestr o'r termau a ddefnyddir ar wefan GuideStar UK. Mae dolen gyswllt i'r rhestr hon i'w gweld ym mhob rhan o gofnod eich elusen.

Ceir eglurhad byr o rai penawdau neu ddolenni cyswllt mewn blwch 'hofran' sy'n ymddangos pan fyddwch yn gosod eich llygoden neu'ch cyrchwr drostynt.


Alla i olygu neu ychwanegu at y wybodaeth sydd i'w gweld am fy elusen?

YGallwch. Rydym wedi anfon llythyrau at bob un o'r 167,000 o elusennau cofrestredig sydd yng Nghymru a Lloegr gan amgáu cyfrinair sy'n galluogi'r elusen i weld a newid ei chofnod ar wefan GuideStar UK. Anfonwyd y llythyrau hyn at Ohebydd yr Elusen a enwyd yn Rhestr Gyhoeddus o Elusennau y Comisiwn Elusennau.

Rydym yn awgrymu bod pob elusen yn enwebu 'Golygydd' ar gyfer eu cofnod ar wefan GuideStar UK. Gall y Golygydd wneud newidiadau yn gyflym ac yn rhwydd drwy glicio ar Update my charity ar yr ochr dde yn rhan uchaf cofnod eich elusen a dilyn y cyfarwyddiadau syml. Bydd cofnod eich elusen yn cael ei ddiweddaru ar unwaith.


Oes rhaid imi ddiweddaru cofnod fy elusen?

Nac oes. Nid yw'n ofynnol ichi ychwanegu unrhyw beth at eich cofnod. Fodd bynnag, mae manteision pwysig os ydych yn gwneud hynny:

  • Po fwyaf o wybodaeth sydd yn y cofnod, po fwyaf tebygol yw hi y bydd ymwelwyr â'r wefan yn dod o hyd i'ch elusen ymhlith y miloedd ar filoedd o elusennau sydd ar y wefan.
  • Bydd ychwanegu at eich cofnod yn sicrhau bod pobl sydd â diddordeb yn dod i wybod mwy am eich gweithgareddau, eich newyddion a'ch llwyddiannau diweddaraf.
  • Drwy sicrhau bod manylion eich elusen yn gynhwysfawr ac yn gyfredol byddwch yn gallu manteisio'n llawn ar eich cofnod: presenoldeb amlwg ar y we i'ch elusen.
  • GuideStar UK yw'r lle cyntaf i edrych ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybodaeth am elusen. Mae'n ffordd bwysig o gyfathrebu â chyfranwyr, gwirfoddolwyr, llunwyr polisïau a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Pwy ddylai ddiweddaru cofnod fy elusen?

Yn ddelfrydol, dylai un person fod yn gyfrifol am eich cofnod ar wefan GuideStar UK. Gallai hwn fod yn rhywun sy'n gyfrifol am gyfathrebu yn yr elusen, yn ymddiriedolwr, neu'n rhywun sy'n gwybod llawer am waith y sefydliad. Gan fod y dewis Update my charity yn caniatáu ichi olygu gwybodaeth am weithgareddau, trefniadaeth a materion ariannol eich elusen, mae'n bosib y bydd angen i fwy nag un person gyfrannu tuag at y broses. Y cyfrinair yw'r allwedd i'ch cofnod. Ni ddylech ddweud wrth bawb beth yw'r cyfrinair hwn a dylech ei gadw mewn lle diogel.


A oes unrhyw arweiniad/cymorth i'w gael ynglyn â sut i ddiweddaru cofnod fy elusen?

Oes. Edrychwch ar GETTING STARTED a TOP TIPS, sydd i'w gweld ar ôl clicio ar Update my charity.

Nid oes rhaid ichi lenwi pob rhan o Update my charity. Rydym wedi awgrymu'r adrannau mwyaf defnyddiol i chi ychwanegu atynt neu eu diweddaru. Edrychwch ar gofnodion elusennau eraill er mwyn cael syniadau ynglyn â sut i ddiweddaru eich cofnod.


A oes unrhyw arweiniad/cymorth i'w gael ynglyn â sut i ddiweddaru cofnod fy elusen?

Gallwch. Cliciwch ar Update my charity ar yr ochr dde yn rhan uchaf tudalen eich elusen, ewch i'r adran UPLOADS a dilynwch y cyfarwyddiadau syml. Rhaid i'r logo fod yn ddu a gwyn, yn ddim mwy na 150 picsel o led ac yn ddim mwy na 150 picsel o uchder. Ni ddylai'r ffeil fod yn fwy na 50Kb. Derbynnir ffeiliau JPEG, GIF a PNG.


Alla i ychwanegu dolen gyswllt i wefan fy elusen?

Gallwch. Os yw cyfeiriad eich gwefan gennym bydd ymwelwyr â gwefan GuideStar UK yn gallu ymweld â gwefan eich elusen. Gallwch hefyd ychwanegu dolenni cyswllt i ffynonellau gwybodaeth eraill yn eich cofnod.


Alla i ychwanegu Adolygiad Blynyddol fy elusen neu ddogfennau eraill at y wefan?

Gallwch. Cliciwch ar Update my charity ar yr ochr dde yn rhan uchaf tudalen eich elusen, ewch i'r adran UPLOADS a dilynwch y cyfarwyddiadau syml. Gallwch ychwanegu chwe dogfen ar hyn o bryd. Ni ddylai'r chwe ffeil gyda'i gilydd fod yn fwy na 5Mb. Gallwch rannu hyn rhwng y ffeiliau os dymunwch.


A oes unrhyw arweiniad/cymorth i'w gael ynglyn â sut i ddiweddaru cofnod fy elusen?

Gall. Cliciwch ar Update my charity ar yr ochr dde yn rhan uchaf tudalen eich elusen, ewch i GETTING STARTED a dilynwch y cyfarwyddiadau syml er mwyn dweud wrth ymwelwyr â GuideStar UK sut y gallant helpu eich elusen. Bydd y wybodaeth hon yn ymddangos ar bob tudalen yng nghofnod eich elusen.


Pam nad yw gwybodaeth ddiweddaraf fy elusen i'w gweld ar y wefan?

Er mwyn sicrhau nad ydym yn rhoi mwy o faich ar elusennau, rydym yn cael y wybodaeth gan y Comisiwn Elusennau. Rydym yn derbyn diweddariad wythnosol o Restr Gyhoeddus o Elusennau y Comisiwn Elusennau sy'n rhoi'r wybodaeth reoleiddio ddiweddaraf inni am bob un o'r prif elusennau cofrestredig - 167,000 ohonynt. Mae'n ofynnol i bob elusen gyflwyno Ffurflen Flynyddol a gall elusennau hefyd ddiweddaru gwybodaeth reoleiddio unrhyw bryd drwy ddefnyddio ffurflen Diweddaru Gwybodaeth y Comisiwn Elusennau Charity Commission's Information Update Form - opens new browser window.

Rydym hefyd yn derbyn copïau rheolaidd o Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol sydd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar gan yr elusennau i'r Comisiwn Elusennau. Mae'n ofynnol i elusennau sydd â'u hincwm blynyddol dros £10,000 gyflwyno Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr neu Ddatganiad Ariannol cyn pen 10 mis o ddiwedd y cyfnod adrodd ariannol, sy'n flwyddyn fel rheol.

Mae gennym raglen dreigl er mwyn codi data o adroddiadau a chyfrifon elusennau a gyflwynir i ni gan y Comisiwn Elusennau. Fel arfer, byddwn yn derbyn y rhain wyth wythnos ar ôl i'r dogfennau gael eu cyflwyno i'r Comisiwn Elusennau. Rydym yn ceisio lleihau'r amser hwn. Os na fyddwn yn derbyn dogfennau gan y Comisiwn Elusennau yna byddwn yn codi dogfennau sy'n union yr un fath gan Dy'r Cwmnïau.

Pan fyddwn wedi derbyn dogfen gan y Comisiwn Elusennau byddwn yn ceisio codi'r wybodaeth a'i chyflwyno ar wefan Guidestar UK cyn pen deng niwrnod gwaith.

Rydym wedi gorffen codi gwybodaeth o bob dogfen a dderbyniwyd ar gyfer blynyddoedd ariannol 2002-03 a 2003-04. Rydym yn awr yn codi gwybodaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2004-05.


Os nad yw adroddiad a chyfrifon diweddaraf eich elusen yn cael eu harddangos, y rheswm am hynny yw:
  • Nad ydym eto wedi derbyn eich adroddiad a'ch cyfrifon diweddaraf gan y Comisiwn Elusennau;
  • Rydym wrthi'n codi data o'ch adroddiad a'ch cyfrifon - bydd y data'n barod i'w harddangos yn ystod y pythefnos nesaf; neu
  • Mae'n system rheoli ansawdd wedi canfod problem gyda'r data a godwyd - mae cywiriadau'n cael eu gwneud a bydd eich cofnod yn cael ei ddiweddaru yn ystod y pythefnos nesaf.

Oherwydd problemau technegol yn y Comisiwn Elusennau mae nifer o ddogfennau ar goll neu'n amhosib i'w defnyddio. Rydym yn gweithio gyda'r Comisiwn Elusennau er mwyn datrys y problemau hyn ac ymddiheurwn am yr oedi.

Rydym yn awr yn gwahodd elusennau i anfon copïau o'r adroddiadau a'r cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i'r Comisiwn Elusennau atom. Gallwch anfon eich dogfen drwy'r e-bost i info@guidestar.org.uk. Neu gallwch ei phostio i info@guidestar.org.uk - opens new browser window. Or post to GuideStar UK, GuideStar UK, 17 Exeter Street, Llundain WC2E 7DU.


Rydym yn gymdeithas dai neu'n sefydliad addysg uwch - pam nad ydych wedi codi gwybodaeth o'r dogfennau a gyflwynwyd gennym i'r Comisiwn Elusennau?

Mae'n system codi data yn seiliedig ar y Datganiad o'r Arfer a Argymhellir (SORP) a luniwyd ar gyfer elusennau. Mae cymdeithasau tai a rhai elusennau eraill, fel colegau prifysgol yn cyflwyno dogfennau mewn ffurf sy'n gydnaws â gofynion cyrff rheoleiddio eraill fel y Gorfforaeth Dai a Chynghorau Cyllido Addysg Uwch. Yn anffodus, ni allwn godi data disgrifiadol ac ariannol o ddogfennau yn y ffurfiau hyn. Fodd bynnag, bydd defnyddwyr y wefan yn gallu gweld y dogfennau a gyflwynwyd gennych i'r Comisiwn Elusennau a gallwch ddewis defnyddio'r cyfle sydd ar wefan GuideStar UK Update my charity i ychwanegu gwybodaeth am eich gweithgareddau a'ch materion ariannol.


Beth ddylwn i ei wneud os yw'r wybodaeth am fy elusen yn anghywir?

Gallwch wneud cywiriadau yn y rhan fwyaf o'r adrannau drwy glicio ar y botwm Update my charity a dilyn y cyfarwyddiadau syml.

Os oes camgymeriad yn y wybodaeth reoleiddio (e.e. cyfeiriad eich elusen neu enwau eich ymddiriedolwyr), gallwch gywiro hyn drwy lenwi ffurflen Diweddaru Gwybodaeth Flynyddol y Comisiwn Elusennau (cofiwch anfon y ffurflen i'r cyfeiriad sy'n ymddangos arni, ac nid i GuideStar UK). Mae'r ffurflen i'w gweld yn http://www.charity-commission.gov.uk/investigations/ccmonlinks.asp - opens new browser window. Byddwn wedyn yn derbyn y wybodaeth hon drwy'r diweddariad wythnosol o Restr Gyhoeddus o Elusennau y Comisiwn Elusennau.

s nad yw hyn yn datrys y broblem cysylltwch â ni yn info@guidestar.org.uk - opens new browser window. Bydd hyn yn ein galluogi i wirio'n cofnodion a rhoi gwybodaeth i chi yn unol â hynny. Er mwyn ein helpu i brosesu eich cais yn gyflym, nodwch "error report" yn nheitl eich e-bost.


Pam nad yw'r ffigurau ariannol ar gyfer fy elusen yn gwneud synnwyr?

Rydym yn ceisio codi gwybodaeth gan elusennau yn yr un ffurf yn union ag y mae'n cael ei chyflwyno mewn dogfennau rheoleiddio. Mae'n trefniadau codi data yn nodi lle mae anghysonderau pa un a yw hynny oherwydd camgymeriadau rowndio neu wallau trawsgrifio, ond nid ydym yn gwneud newidiadau. Rydym yn awgrymu bod defnyddwyr yn edrych ar y dogfennau gwreiddiol. Rydym yn darparu cyfleustra sy'n galluogi defnyddwyr i weld y dogfennau hyn.


Pam bod gwallau teipio yng nghofnod fy elusen a sut alla i eu cywiro?

Rydym yn codi gwybodaeth o Adroddiad Blynyddol eich Ymddiriedolwyr gan ddefnyddio meddalwedd adnabod nodau gweledol. Mae'r meddalwedd yn sganio'r geiriau yn eich dogfennau ac yn eu copïo i'n cronfa ddata. Dyma'r ffordd fwyaf effeithlon a chost effeithiol o godi data o 1 miliwn o dudalennau o ddogfennau elusennau bob blwyddyn. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth aneglur yn y ddogfen wreiddiol neu'r copi electronig a anfonwyd atom gan y Comisiwn Elusennau, gall gwallau teipio ymddangos. Rydym yn ceisio sicrhau bod cynifer ag sy'n bosib o ddogfennau heb unrhyw gamgymeriadau.

Gallwch wneud cywiriadau i'r rhan fwyaf o'r adrannau yng nghofnod eich elusen drwy glicio ar y botwm '[tick] Update my charity' a dilyn y cyfarwyddiadau syml. Os oes camgymeriad difrifol yn y wybodaeth reoleiddio, gadewch inni wybod ac fe wnawn ei gywiro. Sylwer bod rhaid cywiro camgymeriadau yn y data sy'n dod o Restr Gyhoeddus o Elusennau y Comisiwn Elusennau yn y ffynhonnell sef y Comisiwn Elusennau.


Pam bod y penawdau ar eich gwefan yn wahanol i'r rhai sydd yn Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a'n Cyfrifon?

Rydym wedi codi data yn unol â'r Datganiad o'r Arfer a Argymhellir (SORP) ac mae'r penawdau a ddefnyddir gennym ar y wefan yn cyfateb i'r Datganiad. Fodd bynnag, ar ôl ymgynghori'n ofalus ag elusennau a defnyddwyr rydym wedi penderfynu ar y penawdau safonedig a fydd o'r budd mwyaf i'r nifer mwyaf o ddefnyddwyr.


Pam bod problem gyda ffurf tablau ariannol a godwyd o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr?

Rydym yn gallu codi gwybodaeth o bron bob dogfen, ond mae rhai'n achosi problemau inni. Rydym yn trin tablau fel ffurf arbennig ac yn eu codi ar ffurf tabl safonol. Weithiau mae nodau neu eiriau cyfan yn cael eu colli o ddiwedd brawddegau hir, ac weithiau mae geiriau neu rifau heb eu gosod yn iawn. Anogir ymwelwyr â gwefan GuideStar UK i edrych ar eich dogfen wreiddiol os nad yw'r tablau wedi eu gosod mewn ffurf briodol ar eich cofnod ar wefan GuideStar UK.


Beth os yw fy elusen yn rhan o grwp o elusennau?

Bydd gan bob elusen sydd â'i rhif cofrestru ei hun gyda'r Comisiwn Elusennau ei chofnod ei hun ar wefan GuideStar UK. Os yw eich elusen yn rhan o grwp sy'n paratoi cyfrifon cyfunol, mae'n bosib na fyddwn wedi codi'r holl wybodaeth am eich elusen. Defnyddiwch y botwm Update my charity er mwyn ychwanegu cymaint o wybodaeth ag y byddech yn hoffi ei chynnwys.


Alla i newid cyfrinair fy elusen?

Na allwch.


A yw'r cyfrinair yn adnabod prif lythrennau a llythrennau bach?

Nac ydyw.


Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi colli fy nghyfrinair?

Anfonwch e-bost atom yn info@guidestar.org.uk - - mae'n agor ffenestr bori newydd.. Er mwyn ein helpu i ymateb yn fuan i'ch cais, nodwch "Forgotten password" yn llinell bwnc eich e-bost.


Rydym yn elusen newydd - sut mae cael cyfrinair?

Pan ffurfir elusen newydd, bydd GuideStar UK yn anfon cyfrinair unigryw a fydd yn ei galluogi i newid ei chofnod ar-lein. Anfonir cyfrineiriau at Ohebydd yr Elusen a enwyd yn Rhestr Gyhoeddus o Elusennau y Comisiwn Elusennau. Os ydych yn elusen newydd a heb dderbyn eich cyfrinair eto, gadewch inni wybod drwy ymweld ag info@guidestar.org.uk sy'n agor ffenestr bori newydd..

Last updated: November 2005 Back to top