Mae'r dudalen hon yn rhoi atebion i'ch cwestiynau am y wybodaeth sydd ar
wefan GuideStar UK.
Pa elusennau sy'n cael eu cynnwys ar wefan GuideStar UK?
Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am bob un o'r prif elusennau cofrestredig sydd
yng Nghymru a Lloegr - 168,000 ohonynt.
Yn y dyfodol byddwn yn ehangu er mwyn cynnwys:
-
Pob elusen sy'n cael ei chydnabod gan Gyllid y Wlad yn yr Alban a Gogledd
Iwerddon
-
Pob elusen wedi ei hesemptio a'i heithrio yng Nghymru a Lloegr sy'n cael ei
chydnabod gan Gyllid y Wlad
-
Grwpiau cymunedol a gwirfoddol
-
Mentrau cymdeithasol
Pa wybodaeth am elusennau sydd i'w gweld ar Guidestar UK?
Bydd GuideStar UK yn eich helpu i ganfod:
-
Sut i gysylltu â'r elusen
-
Beth mae'r elusen wedi ei sefydlu'n gyfreithiol i'w wneud
-
Pwy mae'r elusen yn ei helpu
-
Y gwasanaethau a ddarperir gan yr elusen
-
Ym mhle mae'r elusen yn gweithio
-
Gweithgareddau a llwyddiannau diweddar yr elusen
-
Sut mae'r elusen yn gwario ei harian
-
Grantiau y mae'r elusen wedi eu gwneud
-
Rhaglenni a pholisïau rhoi grantiau'r elusen
-
Gweithgareddau codi arian yr elusen a gweithgareddau eraill sy'n cynhyrchu
incwm
-
Tarddiad yr elusen a'i hanes
-
Faint o bobl sy'n gweithio i'r elusen ac yn gwirfoddoli ar ei rhan
-
Swyddogaethau gwirfoddolwyr
-
Enwau'r bobl sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau yn yr elusen
-
Sut mae'r elusen yn gwneud yn siwr ei bod yn cael ei rheoli'n dda
-
Pa asedau sydd gan yr elusen
-
Sut allwch chi helpu'r elusen
O ble mae GuideStar UK yn cael ei gwybodaeth?
Mae GuideStar UK yn dod â gwybodaeth sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd at ei
gilydd. Rydym yn ceisio sicrhau nad ydym yn rhoi mwy o faich ar ysgwyddau
elusennau drwy ofyn iddynt gynhyrchu rhagor o adroddiadau. Prif ffynhonnell ein
gwybodaeth yw'r Comisiwn Elusennau. Mae'r Comisiwn yn darparu'r canlynol inni:
-
Cofnod electronig ar-lein bob wythnos o'i Restr Gyhoeddus o Elusennau
-
Bwndeli wythnosol o Adroddiadau Blynyddol Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol
sydd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar gan elusennau sydd ag incwm blynyddol o
£10,000 neu fwy
Rydym yn codi data ariannol a disgrifiadol o'r Adroddiadau Blynyddol a'r
Datganiadau Ariannol hyn a gyflwynir gan Ymddiriedolwyr.
Gall elusennau olygu ac ychwanegu at eu cofnodion ar-lein. Mae hyn yn gwbl
wirfoddol. yn
ymddangos os yw elusen wedi newid ei chofnod. Mae'r holl wybodaeth sydd ar y
wefan hon wedi ei chodi o ddogfennau a gyflwynwyd i'r Comisiwn Elusennau neu a
gyflwynwyd ar-lein gan yr elusennau eu hunain.
A alla i ddarllen y dogfennau rheoleiddio gwreiddiol a gyflwynwyd gan elusen?
Gallwch. Mae GuideStar UK yn galluogi defnyddwyr i weld a darllen Adroddiad
Blynyddol Ymddiriedolwyr diweddaraf pob elusen. Mae GuideStar UK hefyd yn cadw
copi electronig o Ddogfennau Llywodraethu rhai elusennau.
A yw GuideStar UK yn cadw adroddiadau neu ddogfennau eraill a gynhyrchwyd gan
elusennau?
Ydyw. Gall elusennau ychwanegu eu cylchlythyrau diweddaraf, eu datganiadau i'r
wasg, a dogfennau pwysig eraill fel adolygiadau blynyddol neu adroddiadau
effaith.
Pa mor gyfredol yw'r wybodaeth sydd ar GuideStar UK?
Rydym yn ceisio dangos y wybodaeth ddiweddaraf am elusennau.
Mae'n ofynnol i'r rhai hynny sydd â'u hincwm blynyddol dros £10,000 gyflwyno
Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr neu Ddatganiad Ariannol cyn pen 10 mis ar ôl
diwedd y cyfnod adrodd ariannol, sydd yn flwyddyn fel rheol.
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn copïau o adroddiadau a chyfrifon wyth wythnos ar
ôl i'r dogfennau gael eu cyflwyno gan yr elusen i'r Comisiwn Elusennau. Pan
fyddwn yn derbyn copi o adroddiad a chyfrifon elusen byddwn yn ceisio
cyhoeddi'r wybodaeth honno cyn pen deng niwrnod gwaith.
Yn ychwanegol at hyn, gall elusennau olygu ac ychwanegu at eu cofnodion ar-lein
ar unrhyw adeg. Bydd
yn ymddangos os yw elusen wedi newid ei chofnod.
Dangosir dyddiad adroddiad a chyfrifon diweddaraf yr elusen a/neu'r dyddiad y
tro diwethaf y diweddarwyd y cofnod gan yr elusen ar dudalen Grynodeb yr
elusen. Os nad yw'r wybodaeth ddiweddaraf i'w gweld, darperir eglurhad.
A yw GuideStar UK yn nodi elusennau sy'n cynnig grantiau?
Ydyw. Nodir elusennau sy'n cynnig grantiau â'r arwydd hwn: .
Gallwch hefyd ychwanegu'r gair 'grantiau' at eich chwiliad gair allweddol.
Sylwer nad yw llawer o elusennau sy'n cynnig grantiau'n derbyn ceisiadau
digymell. Dylech geisio sicrhau nad ydych yn gwneud ceisiadau am arian a
fyddai'n wastraff ar eich amser chi ac amser y rhai sy'n cynnig grantiau.
Darllenwch y disgrifiadau o weithgareddau a pholisi cynnig grantiau'r elusen yn
ofalus cyn ystyried a ddylech gysylltu â hi ai peidio.
A fydd GuideStar UK yn cynhyrchu tablau sy'n dangos safle elusennau mewn
cynghreiriau?
Ni fydd GuideStar UK yn gwerthuso elusennau nac yn gwneud sylwadau ar eu
perfformiad. Ni fyddwn yn cyflwyno unrhyw dablau cynghreiriau. Byddwn yn
cyflwyno gwybodaeth sylfaenol yn union fel y mae wedi ei chyflwyno'n
uniongyrchol gan yr elusennau i'r Comisiwn Elusennau neu yn eu cofnodion ar y
wefan hon.
A fydd GuideStar UK yn gwerthu data am elusennau?
Bydd. Mae GuideStar UK yn bwriadu datblygu ystod o wasanaethau gwybodaeth
ychwanegol ar gyfer elusennau, cyrff sy'n cynnig grantiau, cynghorwyr
proffesiynol, ac ymchwilwyr a llunwyr polisïau. Bydd y gwasanaethau hyn yn
darparu mynediad teilwredig i'r gronfa ddata. Gellir trwyddedu data hefyd ar
gyfer defnydd allanol. Bydd ein holl gynnyrch sy'n cynhyrchu refeniw yn helpu i
sicrhau bod modd cadw'r wefan gyhoeddus yn ddi-dâl.
Ni fyddwn yn rhoi trwyddedau data oni bai eu bod yn gyson ag amcanion elusennol
GuideStar UK: hybu a chefnogi sector gwirfoddol a chymunedol y DU.
A oes eglurhad o'r termau a ddefnyddir ar wefan GuideStar UK?
Mae'r adran Help yn cynnwys rhestr o'r termau a ddefnyddiwyd ar y wefan.
Ceir eglurhad byr ar rai o'r penawdau neu'r cysylltiadau mewn blwch 'hofran'
sy'n ymddangos pan fyddwch yn rhoi eich llygoden drostynt.
|