Canllaw i Ddefnyddwyr

WCroeso i wefan GuideStar UK, ffynhonnell ddihafal o wybodaeth am bob elusen yng Nghymru a Lloegr.

Bydd y dudalen hon yn eich helpu i gael y gorau o'n gwefan.

Chwilio am elusennau

Mae chwilio am wybodaeth ar GuideStar UK yn hollol syml.

Cam 1

Meddyliwch am air neu gymal allweddol sy'n crynhoi'n effeithiol yr hyn yr ydych chi'n chwilio amdano. Gallai'r geiriau allweddol fod yn achos megis 'cymorth dramor', problem feddygol megis 'awtistiaeth', grwp buddiolwyr megis 'yr henoed' neu leoliad megis 'Caernarfon'. Yr unig beth y mae gofyn i chi ei wneud yw teipio'r gair neu gymal allweddol hwn yn y blwch chwilio.

Peidiwch â chymhlethu pethau - rydym yn defnyddio peiriant chwilio pwerus iawn i'ch helpu i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano - rhowch yr allweddair symlaf sy'n disgrifio eich maes diddordeb.

Cam 2

Y Dylech wedyn weld tudalen sy'n rhestru'r holl elusennau sy'n berthnasol i'ch maes diddordeb. Mae nifer yr elusennau y daethpwyd o hyd iddynt wedyn yn cael e i ddangos ar frig y rhestr. Os nad ydych chi'n gweld rhestr o elusennau, mae'n bosib nad oes gan GuideStar UK unrhyw wybodaeth am eich maes diddordeb penodol chi. Fodd bynnag, gwnewch yn siwr eich bod wedi sillafu'r allweddair yn gywir, ac yna, efallai y byddai'n werth i chi roi cynnig ar air arall.

Fe sylwch ar restr o eiconau ar gyfer pob elusen ar y rhestr. Mae'r rhain yn dweud wrthych pa wybodaeth sydd gennym am elusen. Byddant yn amrywio o un elusen i'r nesaf. Er enghraifft, yn ôl y gyfraith, does dim rhaid i elusennau bach gynhyrchu adroddiad blynyddol a chyfrifon..

  • Mae copi o adroddiad blynyddol a chyfrifon yr elusen ar gael.
  • Mae gwybodaeth ariannol am yr elusen ar gael.
  • Mae'r elusen wedi diweddaru ei chofnod ar y safle hwn.
  • Mae gan yr elusen ei gwefan ei hun - mae dolen ar gael ar dudalen grynodeb yr elusen.
  • Mae'r elusen yn dosbarthu grantiau.
  • Mae'r elusen wedi llwytho dogfennau ychwanegol.

Rydym yn ceisio dangos yr elusennau sydd fwyaf perthnasol i'ch maes diddordeb chi ar frig y rhestr. Os yw hyn yn digwydd, gallwch symud ymlaen i Gam 3. Os nad yw hyn yn digwydd, peidiwch â phoeni - rydym wedi datblygu rhywbeth i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani'n gyflym. Fe'i gelwir yn clystyru.

Mae clystyru yn edrych ar y wybodaeth sydd gennym am yr holl elusennau sy'n berthnasol i'ch maes diddordeb chi, ac yna'n clustnodi'r pethau sy'n gyffredin rhyngddynt. Os yw clwstwr yn berthnasol i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani, yr unig beth sydd raid i chi ei wneud yw clicio arno. Bydd hyn yn agor rhestr newydd o elusennau. Os ydych chi'n gweld elusen sydd o ddiddordeb i chi, yna gallwch symud ymlaen i Gam 3.

IBydd hyn yn dangos set arall o glystyrau. Os ydych chi'n dod o hyd i un sy'n berthnasol, cliciwch arno, ac fe ddangosir rhestr newydd o elusennau. Os oes un o'r elusennau hyn yn bodloni eich maes diddordeb, yna symudwch ymlaen i Gam 3.

Cam 3

Cliciwch enw elusen i weld eu tudalen grynodeb.

Gallwch wedyn bori trwy'r holl wybodaeth sydd gennym am yr elusen honno.

Os ydych chi eisiau mynd yn ôl i'r rhestr elusennau, yna dewiswch y botwm "yn ôl". Os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar allweddair arall, yna naill ai defnyddiwch y blwch chwilio sydd ar bob tudalen, neu dychwelwch i'r dudalen gartref. Os nad ydych chi wedi dod o hyd i'r union beth yr ydych chi'n chwilio amdano, yna rhowch gynnig ar 'Chwilio Manwl' GuideStar UK.

Enghraifft

Mae defnyddiwr eisiau gwybod mwy am "awtistiaeth" ac yn teipio'r gair allweddol hwn yn y blwch chwilio. Mae GuideStar UK yn canfod dros 200 o elusennau sydd â gwybodaeth am "awtistiaeth" ac mae'n rhoi'r 20 elusen gyntaf ar y dudalen canlyniadau chwilio. Mae GuideStar UK yn nodi ystod o bethau sy'n gyffredin rhwng yr elusennau hyn. Mae gan dros 20 elusen wybodaeth am "grwpiau cefnogi" ac mae gan 10 wybodaeth am "ymchwil". Mae gan y defnyddiwr ddiddordeb penodol mewn gwybod mwy am ymchwil ar awtistiaeth ac mae'n dewis y clwstwr hwn. Mae'r defnyddiwr wedyn yn adolygu'r rhestr elusennau sy'n ymddangos yn y clwstwr hwn ac mae'n dewis un o'r elusennau i ganfod pa weithgareddau ymchwil sydd ar waith ganddynt ym maes awtistiaeth.

Chwilio manwl

Rydym hefyd wedi datblygu cyfleuster chwilio manwl i'ch helpu chi ddod o hyd i elusennau yn ôl meini prawf penodol neu gyfuniadau o feini prawf gan gynnwys ein cyfleuster chwilio gair allweddol pwerus. Ar y dudalen chwilio manwl, fe welwch gyfres o flychau chwilio ar gyfer:

  • Rhif cofrestru'r elusen
  • Enw'r elusen gan gynnwys acronymau, ac enwau blaenorol neu enwau eraill
  • Lleoliad swyddfa'r elusen
  • Yr ardal lle mae'r elusen yn gweithio
  • Maint yr elusen (wedi'i seilio ar incwm)

Felly, os ydych yn gwybod enw neu rif cofrestru elusen, gallwch deipio'r wybodaeth hon yn syth yn y blychau hyn a chlicio ar y botwm chwilio ar waelod y dudalen.

Os ydych am chwilio yn ôl lleoliad, mae'n bwysig cofio ein bod yn dal dau fath o wybodaeth am leoliad ar gyfer elusennau.

  • Os ydych yn chwilio am elusennau sydd mewn lleoliad arbennig, teipiwch enw'r lleoliad yn y blwch chwilio Cyfeiriad e.e. Coventry. Sylwch y gallwch chwilio hefyd yn ôl cod post neu ran o god post e.e. CV5.
  • Os ydych yn chwilio am elusennau sy'n gweithredu mewn lleoliad arbennig, teipiwch enw'r lleoliad yn y blwch chwilio Ardal sy'n cael budd e.e. Affrica.

Os ydych am ddewis elusennau o faint arbennig - bach neu fawr, defnyddiwch y blwch chwilio Cyfanswm incwm a dewiswch ystod incwm o'r gwymplen.

Gallwch gyfuno unrhyw rai o'r meini prawf chwilio manwl hyn i gyfyngu ar eich dewis o elusennau.

Enghraifft

Mae defnyddiwr eisiau gwybod a oes unrhyw elusennau sydd wedi'u lleoli yn Coventry yn gweithio er budd pobl sy'n byw yn Affrica. Mae'r defnyddiwr felly'n teipio Coventry yn y blwch chwilio Cyfeiriad ac Affrica yn y blwch chwilio Ardal sy'n cael budd. Wedyn mae'r defnyddiwr yn clicio chwilio ac mae'r dudalen ganlyniadau'n dangos yr holl elusennau sydd wedi'u lleoli'n Coventry ac sy'n gweithredu yn Affrica.

Byddwch yn ofalus wrth ddewis meini prawf chwilio lluosog, os byddwch yn rhy fanwl-gywir fe welwch na fydd unrhyw elusennau'n cael eu dangos wrth ichi chwilio. Ond mae croeso i chi arbrofi, mae ein peiriant chwilio'n gyflym iawn, felly rhowch gynnig arall arni gyda llai o dermau neu rai symlach.

Awgrymiadau ar sut i chwilio ar gyfer y defnyddiwr brwd

Mae GuideStar UK yn cefnogi "gweithredyddion rhesymegol" gyda'r opsiynau chwilio gair allweddol a chwilio manwl. Mae hyn yn golygu y gellir defnyddio meini prawf chwilio lluosog o fewn blwch chwilio ac y gellir hefyd anwybyddu geiriau allweddol ac ymadroddion wrth chwilio. Dyma'r gweithredyddion rhesymegol y gallwch eu defnyddio:

  • AND - gellir ei ddefnyddio i gysylltu dau derm chwilio, dim ond elusennau y bydd y ddau derm chwilio yn berthnasol iddynt fydd yn ymddangos ar dudalen canlyniadau'r chwilio (dyma'r diofyn ar gyfer meini prawf chwilio ar y dudalen Chwilio manwl).
  • OR - gellir defnyddio neu hefyd i gysylltu dau derm chwilio, bydd pob elusen sy'n bodloni'r naill derm neu'r llall yn ymddangos ar y dudalen canlyniadau chwilio.
  • + gallwch roi'r arwydd plws o flaen term chwilio er mwyn gwneud yn si?r y deuir o hyd iddo (dyma'r diofyn ar gyfer yr holl dermau chwilio y byddwch yn eu defnyddio).
  • - os ydych am anwybyddu elusennau sy'n bodloni term chwilio penodol, rhowch arwydd minws o flaen y term chwilio.
  • " " os byddwch yn rhoi dyfynodau dwbl o gwmpas term chwilio, yna bydd y peiriant chwilio'n chwilio am yr union eiriau hynny.

Cofiwch fod rhaid ichi deipio AND a OR mewn priflythrennau er mwyn iddynt weithio fel gweithredyddion rhesymegol.

Enghraifft

Mae'r defnyddiwr am gael gwybod am elusennau sy'n gweithio'n Affrica ac Asia yn unig. Mae'r defnyddiwr felly'n teipio Affrica AND Asia yn y blwch chwilio Ardal sy'n cael budd.

Canfod eich ffordd o gwmpas cofnod elusen

Ceir pedair tudalen yng nghofnod pob elusen:

  • Crynodeb - manylion cyswllt yr elusen, yn ogystal ag amlinelliad cyffredinol o'i gwaith a'i chyllid.
  • Gweithgareddau - beth mae'r elusen yn ei wneud, lle mae'n gweithio a phwy mae'n eu helpu.
  • Trefniadaeth - gwybodaeth gyfreithiol a gweinyddol am yr elusen.
  • Sefyllfa ariannol - sefyllfa ariannol yr elusen, gan gynnwys gwybodaeth ariannol hanesyddol.

Ceir nifer o nodweddion cyffredin ar bob un o'r tudalennau hyn i'ch helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y cofnod, a'r safle yn ei gyfanrwydd.

  • Briwsion - defnyddiwch y briwsion i fynd i unrhyw dudalen ar y llwybr y buoch yn ei ddilyn i gyrraedd y rhan honno o'r safle.
  • Blwch chwilio - mae hwn yn ffordd gyflym a hwylus o chwilio trwy gronfa ddata gyfan GuideStar UK.
  • Tabiau - defnyddiwch y tabiau i symud o un adran i'r nesaf.
  • Dolenni - fel arfer, bydd yr amrywiol ddolenni'n mynd â chi yn syth i'r darn perthnasol o wybodaeth yng nghofnod yr elusen. Bydd rhai yn dweud wrthych chi am agor ffenest porwr newydd neu ddadlwytho ffeil. Bydd y dolenni "Yn ôl" ac 'Yn ôl i'r brig' yn mynd â chi gam yn ôl neu'n ôl i frig y dudalen.
  • Prif ddewislen - mae'r brif ddewislen yn caniatáu i chi symud o gwmpas y safle cyfan.

Mae'r diagram isod yn dangos nodweddion allweddol cofnodion yr elusennau.

Layout of the pages

Deall y termau a ddefnyddiwyd

Rydym wedi cynnwys geirfa - - geiriadur neu restr o'r termau a ddefnyddiwyd ar wefan GuideStar UK. Ceir eglurhad byr o rai penawdau neu ddolenni cyswllt mewn blwch 'hofran' sy'n ymddangos pan fyddwch yn gosod eich llygoden neu'ch cyrchwr drostynt. Diweddaru cofnod elusen (elusennau'n unig)

Trwy glicio Update my charity ar ochr dde uchaf y dudalen, bydd golygydd cymeradwy'r elusen yn gallu golygu neu ychwanegu at y wybodaeth sydd gan GuideStar UK am waith eu helusen, ei threfniadaeth a'i sefyllfa ariannol. Mae GuideStar UK wedi rhoi eu cyfrinair unigryw hwy eu hunain i bob elusen, er mwyn iddynt fynd i mewn i'r rhan hon o'u gwefan.